All content © 2012 Clwb Ifor Bach
All Rights Reserved.
Privacy . Site Credits
Saturday, 11th December 2010

Dros 18 yn unig - - Erbyn cyrraedd eu trydydd blwyddyn o fodolaeth mae'r Cowbois wedi cyflawni ambell i gamp, megis chwarae ar lwyfannau mawr, rhyddhau eu record-hir gyntaf, ac wrth gwrs, y plu amryliw yn eu hetiau cowboi; ennill gwobr RAP a chyrraedd brig Siart C2. A nawr dyma droi eu llygaid tua'r dyfodol a gweld fod yr amser wedi cyrraedd iddynt dynnu'r tannau swn drwg oddi ar eu ffyn canu, a'r crwynau tewion oddi ar y tybiau, a gyrru'r gwartheg i fyny'r dyffryn. Bydd y Cowbois yn cydweithio hefo Gwyneth Glyn a Jôs-Pedal-Stîl yn y dyfodol agos ac yn rhyddhau sengl, ac yna yn hogi cyllyll a chladdu mewn i'w record-hir nesaf. Ac yna, yn hwyrach, caiff y tannau swn drwg ddychwelyd, a caiff Dei brynnu boncyffion praff unwaith eto, yn hytrach na rhyw grwyn-goswyr tila
8:00pm | £6