Clwb Ifor Bach

11 Womanby Street, Caerdydd, CF10 1BR
Ff�n. 029 2023 2199
Ffacs. 029 2030 1113

Cymraeg | English

Posteri

NYE

© 2012 Clwb Ifor Bach
All Rights Reserved. Preifatrwydd . Site Credits

nosweithiau

  • Aperture

    Aperture

    Nos Wener (misol)

    10pm

    Noson drum’n’bass gorau Caerdydd, sy’n cyfri High Contrast ymysg y DJs preswyl. Dros y blynyddoedd ma’ rhai o DJs gorau’r sin wedi troelli yn Aperture, gan gynnwys; Grooverider, Fabio, Hospitalty, Zinc,, Makoto & Deeiz, Break, Ramadanaman, Kasra, Vicious Circle, Black Sun Empire, Commix,Alix Perez a Klute.

  • C-Y-N-T
    C-Y-N-T

    C-Y-N-T

    Nos Iau

    10.30pm | £4

    Wedi’i bleidleisio yn un o’r 3 noson dawns gorau ym Mhrydain gan cylchgrawn Mixmag.

    Os am ddod draw i C-Y-N-T byddwch yn barod noson gwyllt a gwallgo’ wrth i’r DJs chwarae cymysgedd o gerddoriaeth dawns cyfoes. Boed yn tecno, nu-rave neu electronica dyma’r unig ddigwyddiad wythnosol yng Ngaerdydd sy’n cynnig y gorau o’r sin ddawns. Bydd cyfle i glywed y gorau o’r sin lleol yn ogystal a DJs adnabyddus o bob cwr o’r byd, gan gynnwys; Simian Mobile Disco, Erol Alkan, Boy 8 Bit, Bloody Beetroots, Drums of Death, A1 Bassline, Kissy Sell Out, DJ Zinc a llawer mwy.

  • Dirty Pop / Vinyl Vendettas / Potter's Disgo

    Dirty Pop / Vinyl Vendettas / Potter's Disgo

    Nos Sadwrn

    10:00pm | £5

    Yn y canol un o hen wynebau y sin sy’n cadw pawb yn hapus gyda DJ Gareth Potter yn chwarae cymysgedd o funk, soul a rhythm’n’blues.

  • Pop Budr

    Pop Budr

    Nos Sadwrn

    10.00pm | £5

    Yn y lolfa, pop electroneg a dawnsio disco sy'n teyrnasu, gyda'r DJs Ian Cottrell, Esyllt Williams, Johnny Bull a'u Pop Budr. Wedi'i henwi fel 'Noson DJ orau' yng ngwyl Swn 2009, mae'n boeth, chwyslyd a mwy na 'chydig bach yn fudr!

  • Vinyl Vendettas

    Vinyl Vendettas

    Y Genod Droog gwreiddiol – The Vinyl Vendettas. Nhw sy’n cadw’r llawr yn brysur wedi i’r bandiau orffen yn y neuadd gyda cymysgedd o indie a rock’n’roll. Hyn oll bob nos Sadwrn – pa esgus sydd efo chi i beidio dod draw am dro!!!

  • ??

    ??

    Nos Wener

    10.30pm | £3.50/£4.50

    Anthemau inide a rock, hen a chyfoes – dyma’r ffordd i ddechrau’r penwythnos a does nunlle gwell i wrando i’r caneuon yma nag yng nghwmni y meistri – The Dudes Abide. Os da chi’n hoffi The Velvet Undergound, Marc Bolan, Joy Division, Belle & Sebastian, The Cribs, The Klaxons, Los Campesinos a miloedd o fandiau eraill dyma’r unig le i fod ar nos Wener.

  • Listen Up!

    Listen Up!

    Nos Fercher

    10pm | £3

    ‘Heb os dyma’r lleoiad gorau yng Ngaerdydd am indie disco a bandiau newydd’ NME Student Guide 2008

    Dros y ddegawd diwethaf ma nos Fercher yng Nglwb Ifor Bach wedi’i sefydlu ei hun fel y lle i fynd yng Ngaerdydd os am noson o ddawnsio. Yn lliwio’r llong ma rhai o DJs gorau y brifddinas yn cynnig indie yn y neuadd, funk / soul a disco yn y canol a clasuron pop yn y gwaelod.
    Diodydd rhad trwy’r nos: Sambuca / Tequila / Fosters am bunt.

  • Just Dance

    Just Dance

    Nos Fawrth

    10.30pm | £3

    Rhowch eich sgidiau dawsnio ymlaen – ma clwb cerddoriaeth gorau Caerdydd wedi dechrau noson newydd!!! Byddwch yn barod i glywed cymysgedd o pop cyfoes, rock a r’n’b wedi’i cymysygu gyda clasuoron gwych o’r gorffennol. Mynediad rhad, diodydd rhad a caneuon anhygoel!